Petition Number: P-05-1009 Petition title: Gorchmynnwch Gynghorau Cymru i gymhwyso gordal o 100 y cant o leiaf i'r Dreth Gyngor ar ail gartrefi. Text of petition: Mae ail gartrefi a chartrefi tymhorol yn dinistrio ein cymunedau gwledig, wrth brisio pobl leol allan o'r farchnad dai. Yn y cyfamser mae llawer o berchnogion ail gartref yn osgoi talu unrhyw Dreth Gyngor trwy hawlio rhyddhad i fusnesau bach. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn mynd ati i annog hyn i beidio a chymhwyso cosbau o 10% o werth ail gartref am osgoi bwriadol. |
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Anheddau'r Dreth Gyngor: Ebrill 2020 i Mawrth 2021 ym mis Ionawr 2020. Mae Tabl 6 ar dudalen 9 yn dangos bod wyth awdurdod yn bwriadu codi premiwm ail gartref yn y flwyddyn ariannol gyfredol:
§ Ynys Môn
§ Gwynedd
§ Conwy
§ Sir Ddinbych
§ Sir y Fflint
§ Powys
§ Ceredigion
§ Sir Benfro
Yn ogystal, mae Cyngor Abertawe wedi nodi y bydd yn codi premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi o fis Ebrill 2021.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gynhwysir yn y briff hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |